Prosiect Mostyn
Mae ‘Prosiect Mostyn’ yn un o fentrau’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC) ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor, mewn cydweithrediad agos â phartneriaid megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Prifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac Ystâd Mostyn. Mae’n canolbwyntio ar y corff anferth, amrywiol ac anhygoel o gofnodion – yn ysgrifenedig ac ar ffurf deunyddiau – a gynhyrchwyd, a gasglwyd neu a fu ar ryw adeg ym meddiant teulu ac ystâd Mostyn yng ngogledd Cymru. Mae’r cofnodion yn amrywio o ran dyddiad o’r cyfnod canoloesol i’r ugeinfed ganrif; ac o lawysgrifau llenyddol a llyfrau printiedig cynnar, drwy archifau’r ystâd a’r teulu, i ffynonellau gwleidyddol, ac ymlaen i adeiladau, paentiadau a nwyddau’r cartref. Mae llawer ohonynt yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Archifau Prifysgol Bangor, ond mae llawer ohonynt hefyd yn dal i gael eu cadw gan Ystâd Mostyn, a rhagor yng ngofal Archifdy Penarlâg a chadwrfeydd eraill ledled y byd. Mae Prosiect Mostyn yn cael ei redeg ar y cyd ag Ystâd Mostyn a theulu Mostyn, ac yr ydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u diddordeb.
Amcanion allweddol Prosiect Mostyn yw:
-
Codi ymwybyddiaeth gyhoeddus ac academaidd o ystod a diddordeb deunydd Mostyn.
-
Cyfoethogi deunydd Mostyn fel adnodd cyhoeddus ac academaidd drwy gyfrwng gweithgareddau megis ei leoli, ei gatalogio, ei ddigideiddio, ei ddosbarthu’n electronig, ei adfer a’i arddangos.
-
Dangos pa mor ddefnyddiol yw’r deunydd ar gyfer dealltwriaeth gyhoeddus ac academaidd o ddiwylliant y gorffennol a diwylliant cyfoes – yn enwedig diwylliant Cymru – drwy gyfrwng prosiectau ymchwil, arddangosfeydd a darlithoedd sy’n canolbwyntio ar gofnodion teulu ac ystâd Mostyn.
Mae Prosiect Mostyn yn cwmpasu ystod eang o themâu ymchwil, yn cynnwys archwilio cyfraith tir yr Oesoedd Canol, gwaith ar noddwyr y beirdd, ail-greu Llyfrgelloedd Mostyn ac ystyried celf a phensaernïaeth y teulu pwysig hwn o Gymru. Mae dau brosiect mawr ar y gweill, y naill yn ymwneud â datblygiad Llandudno fel cymuned drefol a thref glan-môr arwyddocaol a’r llall yn archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio dulliau dyniaethau digidol i ail-greu Llyfrgell Mostyn. At ddiben y gwaith ymchwil hwn, mae Prosiect Mostyn yn cydweithio ag ystod o bartneriaid yn cynnwys Ystadau Mostyn a’r teulu Mostyn, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Prifysgol Bangor, Cadw, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a nifer o swyddfeydd a chymdeithasau cofnodion lleol eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Manylion Cyswllt:
Os hoffech ddysgu mwy am unrhyw rai o’r prosiectau hyn neu am Brosiect Mostyn yn gyffredinol, cysylltwch â:
Dr Elisabeth Salter
Cyfarwyddwr y Prosiect, Yr Adran Saesneg, Prifysgol Aberystwyth