Prosiect Mostyn
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Mae Shaun Evans yn cael ei ariannu gan Ystad Mostyn ac wedi’i gofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae e’n gweithio ar adeiledd creadigol Hunaniaeth y Teulu Mostyn c. 1485-1692. Ei gyfarwyddwyr yw Dr Elisabeth Salter (Aberystwyth. Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol), ynghyd â Dr Sara Elin Roberts (Bangor, Y Gyfraith), a Dr Damian Walford Davies (Aberystwyth, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
Mae Sam Garland yn cael ei ariannu gan ysgoloriaeth 125 ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio ar gasgliad o gylchlythyron a ysgrifennwyd at y teulu Mostyn o Lundain yn hwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ei gyfarwyddwyr yw Tony Claydon (Bangor, Hanes a Hanes Cymru) a’r Athro Tom Corns (Bangor, Saesneg)
Mae Eirian Jones yn cael ei hariannu gan Ysgoloriaeth 125 ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio ar olygiad newydd yn y Gymraeg o’r canu mawl sy’n gysylltiedig â’r teulu Mostyn. Ei chyfarwyddwyr yw’r Athro Peredur Lynch (Y Gymraeg, Bangor) a Nia Powell (Hanes a Hanes Cymru, Bangor).
Cyfleoedd Cyllid
Mae cyllid ar gael ar gyfer Ysgoloriaeth 125 arall ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer myfyriwr sy’n gweithio ar ymateb y teulu Mostyn i’r Dadeni.
Cyfarwyddwyr y prosiect hwn fydd Yr Athro Andrew Hiscock (Bangor, Saesneg), Dr Laura Rorarto (Ieithoedd Modern, Bangor), Yr Athro Tony Claydon (Bangor, Hanes a Hanes Cymru).
Nôl i Prosiect Mostyn
Manylion Cyswllt:
Os hoffech ddysgu mwy am unrhyw rai o’r prosiectau hyn neu am Brosiect Mostyn yn gyffredinol, cysylltwch â:
Dr Elisabeth Salter
Cyfarwyddwr y Prosiect, Yr Adran Saesneg, Prifysgol Aberystwyth