Diwylliannau Rhyfel a Datrys Gwrthdaro
Mae’r rhwydwaith ymchwil rhyngwladol hwn yn cysylltu SACMC â Chanolfan Astudiaethau'r Canol Oesoedd a’r Dadeni yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Sefydlwyd y rhwydwaith yn 2006, ac mae'n dwyn ynghyd ysgolheigion, myfyrwyr ac ymchwilwyr annibynnol sy’n archwilio agweddau ar ryfel a datrys gwrthdaro o’r Canol Oesoedd cynnar i ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Mae’r rhwydwaith yn rhoi pwys mawr ar waith rhyngddisgyblaethol, ac mae’n croesawu pawb sy'n ymddiddori mewn astudio goblygiadau trais diwylliannol a rhannu'r canfyddiadau mewn fforwm academaidd.
Rhestrir y meysydd a fydd o ddiddordeb i gychwyn isod: serch hynny, ni chyfyngir arnynt, ac mae’r rhwydwaith yn darparu llwyfan i drafodaethau a phrosiectau ar unrhyw agwedd ar ryfel a datrys gwrthdaro yn y byd cyn-fodern a fyddai’n elwa yn sgil astudiaeth ar draws y disgyblaethau. Y bwriad yw y bydd y meysydd a restrir yma yn fannau crisialu i grwpiau o ysgolheigion, ac y bydd aelodau’r grwpiau hynny yn diffinio beth yw'r cwestiynau pwysicaf ac yn llunio gweithgareddau i'w hateb.
-
Y milwr / ysgrifennwr
-
Rhyfela a diwylliant y llys
-
Gwrthdaro a llunio hunaniaeth genedlaethol
-
Gwladychu a choncro
-
Llenyddiaethau rhyfel
Ers y gynhadledd gyntaf ym mhlas Gregynog (Cynhadledd agoriadol y rhwydwaith ‘Diwylliannau Rhyfel’ - yn Saesneg yn unit), mae’r rhwydwaith wedi cwrdd ddwywaith y flwyddyn mewn cynadleddau undydd; ymhlith y mannau lle cynhaliwyd y cynadleddau hynny mae Coleg y Drindod, Dulyn, Sheffield, Warwick a Choleg King’s, Llundain. Mae cyfarfodydd wedi’u cynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn Reading a Chaerhirfryn, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer y cyfarfod cyntaf yng Ngogledd America yn y dyfodol agos. Mae gan y rhwydwaith restr bostio sy’n cynnwys tua 70 aelod, ac mae’n cael ei chydlynu gan Dr Sarah Alyn-Stacey yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Dylai ysgolheigion sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y grŵp hwn gysylltu â Dr Andrew Hiscock (els408@bangor.ac.uk).
Dr Andrew Hiscock
Cydlynydd y thema